P-06-1273 Lleihau amseroedd amser am ambiwlansys ac mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn ddirfawr

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Christopher Evans, ar ôl casglu cyfanswm o 262 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Roedd yn rhaid i fy nhad aros 13 awr ar ôl cael strôc ddifrifol. Rhan o’r broblem oedd bod ambiwlansys yn cael eu dal yn ôl yr adrannau Damweiniau ac Achosion Brys am oriau lawer yn aros i drosglwyddo cleifion. Mae’r broblem wedi’i briodoli i brinder gwelyau a staff. Oherwydd bod fy nhad wedi gorfod aros cyhyd, mae’r siawns y bydd yn gwella yn llai.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Roedd hon yn eitem newyddion ar BBC Wales Today, BBC radio Wales a gwefan BBC Wales. Cafodd adran newyddion y BBC gadarnhad gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru fod yr amseroedd yn gywir, ac maent wedi ymddiheuro. Rwy’n aros i’w gwasanaeth ambiwlans a’r gwasanaeth logio galwadau ymateb.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Cwm Cynon

·         Canol De Cymru